Contact us

Mae Cymru wedi cymryd at Commonplace

Mae Cymru wedi cymryd at Commonplace – o Ynys Môn i Abertawe ac o Wrecsam i Geredigion. Boed yn Gymraeg neu yn Saesneg, mae degau o filoedd o drigolion Cymru yn defnyddio gwefannau ymgysylltu i helpu i siapio’r lleoedd lle maen nhw’n byw, astudio, gweithio a hamddena.


Read the English language version

Read in English


 

Darllenwch ymlaen i ddarganfod sut mae pobl Cymru wedi bod yn defnyddio teclynnau ymgysylltu digidol i greu newid cadarnhaol mewn amrywiaeth o ffyrdd gwahanol a hanfodol.

 

Gwella Teithio Llesol ar draws Cymru 

Active Travel in Wales

Does unman gwell i weld hyn ar waith nag yn Rhaglen Teithio Llesol flaenllaw Llywodraeth Cymru. Ers 2020, mae Commonplace wedi parhau i gynorthwyo’r rhaglen hon gyda gwefannau ymgysylltu i 20 o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Mae’r prosiect cenedlaethol wedi symud o drafod syniadau, gobeithion ac anawsterau’n lleol i gyflwyno atebion penodol a gododd yn sgil y rownd gyntaf o sgyrsiau a gynhaliodd Commonplace. Pasiodd Cymru ddeddfwriaeth Teithio Lles a dorrodd dir newydd yn 2013 ac mae pob llwyfan Commonplace yn y prosiect hwn wedi helpu i greu’r darluniau lleol manwl o’r hyn y gall rhoi cyfeiriad y ddeddfwriaeth ar waith ei olygu.

 

Mae’r gwefannau ymgysylltu cymunedol Teithio Llesol hyn yn dangos sut mae ymgysylltu ar-lein yn esblygu gyda chynnydd y rhaglen leol. Er enghraifft, dechreuodd Cyngor Caerdydd ei daith Commonplace yn 2020 gyda map cyfrannu torfol lle nododd pobl faterion lleol yn ymwneud â theithio llesol. Yn Haf 2021 dilynwyd hyn gyda’r defnydd o ail wefan ymgysylltu Commonplace i ymgynghori ar welliannau i lwybrau penodol mewn 32 o leoliadau. Crëwyd yr ymgynghoriad i gyflawni dyletswyddau’r Cyngor o dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013. Gofynnodd y Cyngor i’w drigolion a’i ymwelwyr helpu i gadarnhau’r canlynol:

  • Ydyn ni wedi nodi'r llwybrau cywir i’w gwella (llwybrau arfaethedig)? 
  • Ydyn ni’n gywir yn ein hasesiad o lwybrau sydd eisoes yn bodloni'r safonau y cytunwyd arnynt (llwybrau presennol)?
  • Ydyn ni wedi nodi'r holl lwybrau newydd priodol?
  • Ydy’r cynigion yn y rhestr cynlluniau yn briodol ar gyfer datblygu'r llwybrau arfaethedig?

Denodd y ddau ymgynghoriad cysylltiedig fwy nag 20,000 o ymatebion ac mae bron i 1,200 o bobl wedi tanysgrifio i dderbyn diweddariadau ar y prosiect. 

Mae Bro Morgannwg yn dilyn trefn debyg, gan ddechrau gyda map Commonplace (a dderbyniodd 4,640 o gyfraniadau) ac yna ail fap i gasglu adborth ar ei rwydwaith llwybrau cerdded a beicio arfaethedig. Yna, ymgynghorodd y Cyngor ar naw llwybr penodol ac mae bellach yn ymgynghori’n fanwl ar ddau lwybr pellach gan ddefnyddio llwyfannau Commonplace ar wahân - yn Sili ac o amgylch y Bont-faen

Roedd Caerffili yn Gyngor arall a ddefnyddiodd Commonplace ar gyfer gwaith teithio llesol, ac mae bellach yn defnyddio Commonplace eto, i ymgysylltu â’r cyhoedd wrth ddatblygu ei gyfnewidfa trafnidiaeth gyhoeddus <https://caerphillyinterchange.commonplace.is/cy-GB>.

Mae Casnewydd yn cynnig enghraifft o ddefnyddio Commonplace ar gyfer mater tir cyhoeddus gwahanol – ymgynghoriad mewn perthynas â rheolau lleol ar gyfer cerdded cŵn (Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus arfaethedig) sydd wedi derbyn dros 600 o gyfraniadau. 

Newport dog walking welsh community engagement

Ymgysylltiad cymunedol parhaus yng Nghymru

 

Mae ymgysylltiad cymunedol Commonplace yng Nghymru’n parhau i dyfu’n dda y tu hwnt i ymgysylltiadau teithio yn unig.

Rydym wedi gweithio gydag ymgynghoriaeth arloesol Cogitamus ar ail-ddylunio Gorsaf Ganolog Caerdydd ac yn flaenorol ar ymgynghoriad trafnidiaeth ranbarthol ar gyfer De Ddwyrain Cymru. Mae Sustrans Cymru yn bartner ar gyfer y prosiectau teithio llesol ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru a’r awdurdodau lleol.

Mewn ymateb i Covid rydym wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru i fapio’r galw am fannau gweithio cyffredin a phatrymau gweithio newydd ar draws y wlad. Yng ngorllewin Ynys Môn, rydym wedi gweithio gyda phartneriaeth newydd gan gynnwys Low Carbon i ymgysylltu â’r cyhoedd ynghylch cynlluniau am weithfa ynni solar - Parc Solar Traffwll.  

Welsh community engagement

Nid ar gyfer llywodraeth leol yn unig mae Commonplace – rydym yn gweithio gyda datblygwyr preifat, gweithredwyr teithio a grwpiau cymunedol, i enwi ond rhai mathau ychwanegol o ddefnyddwyr. 

Ym mhob lleoliad lle mae Commonplace yn gweithio, rydym yn gwahodd trigolion i optio i dderbyn hysbysiadau am lwyfannau Commonplace newydd lle maen nhw’n byw. Mae hyn yn golygu ein bod ni nid yn unig yn dod â’n technoleg, ond hefyd presenoldeb cyffredin i roi hwb cychwynnol i ymgysylltu. Mae ein teclynnau cyfathrebu sy’n rhan gynhenid o’r llwyfannau a’n hopsiynau am ymgyrchoedd taledig ar y cyfryngau cymdeithasol yn sicrhau eich bod yn gallu gwneud y mwyaf o gyrraedd eich ymgysylltiad a darparu adborth buan i drigolion.

 


Rhowch gynnig ar ein gwasanaeth ar gyfer eich ymgysylltiad neu’ch ymgynghoriad cyhoeddus nesaf!

 

Trefnwch sesiwn arddangos am ddim


Ysgrifennwyd gan


David Janner-Klausner: David yw Cyd-sylfaenydd Commonplace (ac mae’n meddu ar radd MSc o Ganolfan y Dechnoleg Amgen ym Machynlleth).

Emma Megaughin: Emma yw’r Rheolwr Rhanbarthol dros Gymru a’r Alban (ac mae’n meddu ar 15 mlynedd o arwain rhaglenni ymgynghori cymunedol ac ymgysylltu gwleidyddol)




David Janner-Klausner

David Janner-Klausner

Co-founder & Deputy CEO